Offerynnau Statudol sydd ag adroddiadau clir, a ystyriwyd yn flaenorol ar gyfer sifftio ac sydd bellach yn ddarostyngedig i graffu o dan Reolau Sefydlog 21.2 a 21.3

4 Mawrth 2019

Cafodd yr offerynnau canlynol eu hystyried yn flaenorol i'w sifftio yn unol â Rheol Sefydlog 21.3B. Yn y broses sifft, cytunodd y Pwyllgor ym mhob achos mai'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau oedd y weithdrefn penderfyniad negyddol. Bellach mae'r offerynnau yn ddarostyngedig i graffu arferol yn unol â Rheolau Sefydlog 21.2 a 21.3. Er bod gan yr holl offerynnau adroddiadau clir, maent hefyd yn cynnwys pwynt o ran rhinweddau i amlygu'r broses sifftio:

Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai'r weithdrefn negyddol yw'r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn

 

SL(5)325 – Rheoliadau Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn mewnosod “unrhyw ofyniad yn neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir” yn adran 14A(5) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, yn lle “unrhyw ofyniad yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd sy’n uniongyrchol gymwysadwy”.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 4 Chwefror 2019

Fe’u gwnaed ar: 12 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar:

SL(5)328 – Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

These Regulations are made in exercise of the powers conferred by section 2(2) of the European Communities Act 1972 (the ‘European Communities Act’) and by the powers conferred by paragraph 1(1) of Schedule 2, and paragraph 21 of Schedule 7 to, the European (Withdrawal) Act 2018 (the ‘Withdrawal Act’).

These Regulations amend 5 other instruments as follows:

The provisions made under section 2(2) of the European Communities Act make minor amendments or are to update out-of-date references.

The provisions made under the powers in the Withdrawal Act are intended to address failures of retained EU law to operate effectively and other deficiencies arising from the withdrawal of the United Kingdom from the European Union.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 28 Ionawr 2019

Fe’u gwnaed ar: 13 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar:

 

 

SL(5)329 – Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

These Regulations are made under section 11 of, and paragraph 1(1) of Schedule 2 to, the European Union (Withdrawal) Act 2018. The Regulations amend the Environmental Noise (Wales) Regulations 2006 (“the 2006 Regulations”) in order to address failures of retained EU to operate effectively and other deficiencies arising from the UK’s departure from the European Union.

The 2006 Regulations implemented Directive 2002/49/EC of the European Parliament and of the Council of 25 June 2002 relating to the assessment and management of environmental noise. These Regulations maintain the requirements imposed by the 2006 Regulations but amend references to Directive 2002/49/EC and make other minor and technical amendments.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 7 Ionawr 2019

Fe’u gwnaed ar: 11 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar:

 

SL(5)330 – Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019 (“Rheoliadau 2019”) sy'n ychwanegu at Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/262 sy’n nodi rheolau yn unol â Chyfarwyddebau’r Cyngor 90/427/EEC a 2009/156/EC o ran dulliau adnabod equidae yng Nghymru, ac mae’n darparu ar gyfer gorfodi’r Rheoliad hwnnw.

Mae’r rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Gofynion sifftio wedi eu bodloni: 4 Chwefror 2019

Fe’u gwnaed ar: 11 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 13 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: